Arian ar gyfer Prosiect Arsyllfa Penllergare

Mae'r Ymddiriedolaeth wedi cael newyddion gwych! Dyfarnwyd cyllid i ni o'r Gronfa Treftadaeth Bensaernïol i ddatblygu prosiect mewn partneriaeth â Awyr Dywyll Cymru i helpu adfer Arsyllfa Gyhydeddol hanesyddol Penllergare ac edrych ar y posibilrwydd o gyflwyno planetariwm i'r adeilad.
 
Am fwy o fanylion am y prosiect a'r cymorth gan y Gronfa Dreftadaeth Bensaernïol, gweler y linc isod:
 
 
Dros y misoedd nesaf i ddod byddwn yn darparu diweddariadau ar y prosiect drwy'r cyfryngau cymdeithasol a'n gwefan (www.penllergare.org) gan gynnwys sut y gallwch gymryd rhan yn nyfodol yr Arsyllfa.
 
Os hoffech chi gael gwybod mwy neu ofyn unrhyw gwestiynau anfonwch e-bost atom yn [email protected]