Addewidion Penllergare
Heb oruchwyliaeth ac yn ddigariad am fwy na thrigain mlynedd, aeth Ymddiriedolaeth Penllergare ati i adfer Coedwig Cwm Penllergare i bobl Abertawe, ac ymwelwyr â hi. Talodd eu blynyddoedd o waith caled ac ymroddiad ar ei ganfed, gan ein bod bellach yn croesawu mwy na 150,000 o ymwelwyr y flwyddyn. Mae Coedwig Cwm Penllergare yn cynnig profiad cwbl unigryw drwy gydol y flwyddyn, does dim lle tebyg iddo yn Abertawe.
O groeso cynnes yn ein Siop Goffi, i olygfeydd ysblennydd ar draws y dyffryn, mae gan Penllergare rywbeth at ddant pawb. Darllenwch isod am flas o'r hyn i'w ddisgwyl ar eich ymweliad, ac i ddarganfod yr amser gorau o'r flwyddyn i weld ein rhododendrons, asalelas, cennin Pedr a chlychau'r gog.
Mae'r gwaith ym Mhenllergare bob amser yn mynd rhagddo, ac mae'r Ymddiriedolaeth yn canolbwyntio'n barhaus ar brosiectau newydd sy'n hyrwyddo hanes a chadwraeth, ac sy'n rhoi yn ôl i'r gymuned. Edrychwch ar ein tudalen Newyddion a Digwyddiadau i gadw i fyny â phopeth sy'n digwydd yma ym Mhenllergare.