Ydych chi'n gyfrifydd profiadol gydag ychydig oriau i'w sbario bob wythnos? Ydych chi'n chwilio am gyfle gwerth chweil i ddefnyddio'ch profiad a'ch sgiliau i roi rhywbeth yn ôl i'r gymuned leol?
Mae Ymddiriedolaeth Penllergare yn chwilio am Drysorydd Gwirfoddol ar gyfer ein helusen fawreddog a gwobrwyedig, sy'n canolbwyntio ar dreftadaeth, amgylchedd a chymuned.
Dyma gyfle gwych i ymuno â'n tîm cyfeillgar ac angerddol o Ymddiriedolwyr, staff a gwirfoddolwyr . Am fwy o wybodaeth cysylltwch â [email protected]