Dydd Llun Hapus! Dewch i Ymuno â'n Gwirfoddolwyr

DYDD LLUN HAPUS yng Nghoedwig Cwm Penllergare – dewch i ymuno â'n gwirfoddolwyr
 
O'r 8fed o Dachwedd byddwn yn dechrau diwrnod gwirfoddoli newydd yma ar ddydd Llun. Beth am ddod i ymuno â'n tîm hapus o wirfoddolwyr coetir?
 
Ar ddydd Llun 8 Tachwedd byddwn yn cynnal diwrnod mewno a sefydlu ar gyfer gwirfoddolwyr newydd. Byddwn yn dechrau am 9.30am a byddwn yn cyfarfod yn y prif faes parcio, Coed Cwm Penllergaer SA4 9GS – dewch i ymuno â ni.
 
Byddwn yn gweithio ar brosiectau cyffrous a gwerth chweil i helpu i adfer, gwarchod a chynnal y coedwigoedd hardd yr ydym i gyd yn eu caru.
Am fwy o fanylion anfonwch e-bost at [email protected]
 
Hoffai'r Ymddiriedolaeth ddiolch a chydnabod WCVA a Llywodraeth Cymru am y cymorth y maent wedi'i roi i ni i alluogi mwy o ddiwrnodau gwirfoddoli yma ym Mhenllergare.