Mae gan Ymddiriedolaeth Penllergare gyfle cyffrous i Swyddog Cadwraeth profiadol ymuno â'n tîm. Mae'r swydd yn llawn amser gyda chyflog o £26-29,000 (yn dibynnu ar brofiad).
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn brofiadol mewn Rheoli Coetir a Chadwraeth a bydd ganddo gymwysterau perthnasol.
Mae'r swydd hon ar gyfer contract dwy flynedd i ddechrau. Am fwy o fanylion, gweler y ddolen isod neu e-bostiwch [email protected] am becyn cais llawn. Y dyddiad cau yw hanner dydd Dydd Llun 23 Medi 2024.
Bydd y swydd yn cael ei hariannu'n rhannol gan Lywodraeth y DU drwy'r Gronfa Angori Gwledig (Cyngor Abertawe).