Arddangosfa Meddwl yn Wyrdd Yn Oriel Glynn Vivian

Mae'r Ymddiriedolaeth yn falch o fod yn rhan o arddangosfa Thinking Green gan Owen Griffiths yn Oriel Glynn Vivian. Mae ein model o'r Orchid House yn ymddangos ymhlith yr arddangosfa sy'n brosiect deialogau tir.

Mae mynediad am ddim a bydd yr arddangosfa'n parhau tan ddydd Sul 4 Medi. Hoffem ddiolch i Owen a'r tîm yn Oriel Glynn Vivian am gynnwys Penllergare a'r Orchid House, mewn sioe brydferth sy'n ysgogi'r meddwl.

Mae'r Tŷ Tegeirian yn nodwedd ganolog o'r Ardd Furiog yma ym Mhenllergare. Mae'r Ardd Furiog yn rhan bwysig o'n prosiect adfer ar gyfer y coedwigoedd sy'n cael eu cefnogi a'u hariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

 

Llun – Owen Griffiths a Thîm Glynn Vivian wrth agor yr arddangosfa Thinking Green