Cysylltu â Natur

Yr Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl hon rydym yn gwahodd pawb i Gysylltu â Natur yma yng Nghoedwig Cwm Penllergare. Ewch am dro drwy'r coed a chymerwch y foment i weld harddwch naturiol y Rhododendrons mewn blodau.
"Oeddech chi'n gwybod y gall dod â natur i mewn i'ch bywyd bob dydd wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'ch iechyd meddwl? Gall treulio amser ym myd natur ac o'i gwmpas leihau straen a helpu i gynyddu teimladau o bositifrwydd" (Sefydliad Iechyd Meddwl)
I gael rhagor o awgrymiadau ar gyfer cysylltu â natur yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, ewch i wefan y Sefydliad Iechyd Meddwl
 

Rhododendron

Blodau'r Rhododendron