Plannu ar gyfer y Dyfodol

Perllan Treftadaeth Penllergare -Plannu ar gyfer y Dyfodol – Achub y Gorffennol
 
Mae Perllan Treftadaeth Penllergare yn dechrau siapio. Mae'r gwirfoddolwyr wedi gwneud gwaith anhygoel o glirio, sefydlu a phlannu'r safle. Mae'r berllan newydd wedi'i phlannu gyda mathau Cymreig a phrin o afalau a ffrwythau eraill, gan eu diogelu ar gyfer y dyfodol a darparu cynefin gwych i bryfed peillio.
 
Hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r Postcode Local Trust, Cyngor Cymuned Penllergaer, Ymddiriedolaeth Oakdale a'n cyllidwyr eraill am eu cefnogaeth i'r prosiect cyffrous hwn.
 
Hoffem hefyd gydnabod ein partneriaid gwych yn IBERS (Prifysgol Aberystwyth) a RHS Wisley am eu cymorth, eu cyngor a'u harweiniad arbenigol.
 
Os hoffech gymryd rhan a gwirfoddoli, anfonwch e-bost atom yn [email protected]
 
(Ffotograff – Gwirfoddolwr Tom John yn y Berllan Treftadaeth)